Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Chwefror 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/12616
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Gwahoddodd y Llywydd arweinwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Prif Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dechreuodd yr eitem am 14.38
3 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Covid Hir
Dechreuodd yr eitem am 14.50.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 15.22 cafodd y cyfarfod ei atal dros dro gan y Llywydd.
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Cap ar Brisiau Ynni
Dechreuodd yr eitem am 15.32
5 Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau’r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol
Dechreuodd yr eitem am 16.17
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7907 Mick Antoniw (Pontypridd)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Pensiynau a Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Awst 2021 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.
Bil Pensiynau A Swyddi Barnwrol Y Gwasanaeth Cyhoeddus (Saesneg yn unig)
Dogfennau
Ategol
Adroddiad
y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder
Cymdeithasol
Adroddiad
y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
41 |
0 |
11 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
6 Dadl: Cyllideb Ddrafft 2022-2023
Dechreuodd yr eitem am 16.23
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
NDM7908 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2021.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
Yn credu bod Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2022-23 yn methu â chyflawni blaenoriaethau pobl Cymru.Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
14 |
0 |
38 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM7908 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 20.12:
Yn nodi'r Gyllideb Ddrafft ar gyfer blwyddyn ariannol 2022-23 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol ar 20 Rhagfyr 2021.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
27 |
11 |
14 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
Yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, am 18.43 cafodd y trafodion eu hatal dros dro i ganiatáu egwyl technegol cyn y Cyfnod Pleidleisio.
7 Cyfnod pleidleisio
The item started at 18.47
Crynodeb o Bleidleisiau
Daeth y cyfarfod i ben am 18.49
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 9 Chwefror 2022